Côr Meibion Bro Glyndŵr
Bro Glyndŵr Male Voice Choir

Côr Meibion Bro Glyndŵr          Côr Meibion Bro Glyndŵr          Cor Meibion Bro Glyndwr

Formed in 1973 by Robin Williams and is now, today, directed by Ann Atkinson

Côr Meibion Bro Glyndŵr home pageHome
 Cartref

Bro Glyndwr Our HistoryHistory
 Hanes

Bro Glyndwr Male Voice Choir EventsEvents
 Digwyddiadau

Choir PhotosPictures
 Lluniau

Contact UsContacts
 Cysylltiadau

 

k

History of the Choir

Bro Glyndwr Male Voice Choir

The choir was formed in 1973 to compete at the Powys Eisteddfod with Robin Williams as its Musical Director.  Since then the choir has gained many eisteddfodic successes, and in 1978 were the first Welsh choir to compete at the Scottish Mod in Oban.  The members have travelled extensively both in the UK and Europe. Their most recent trip, in October 2006 was to `s-Hertogenbosch in the Netherlands to take part in the remembrance service held annually to commemorate the liberation of the city in October 1944 by the 53rd  Welsh Division.

The visit to the Netherlands also enabled the choir to renew a long established link with the Maasbre Male Voice Choir.

The Choir has made several television appearances over the years, in competition and on the Bargain Hunt programme with David Dickinson.

Following the retirement of Robin Williams, Ann Atkinson became the Musical Director. The choir was invited to compete in the prestigious televised choral competition Gwyl Gorawl Cymru. In 1990  when Ann left the choir to study at the Royal Academy of Music in London, Gwerfyl Williams, the choir accompanist, became the Musical Director, followed by Paul Johns until 1994.

In 1998 Ann returned to the choir as MD with Gwerfyl Williams as Assistant Musical Director when Ann is away following her professional singing career.

Alice Evans is the choir accompanist, an accomplished pianist and church organist.

The choir works hard within the community for the benefit of local and national charities. Under Ann’s baton the choir has staged several large scale biannual charity concerts in association professional soloists and other local choirs, notably the Froncysyllte Male Voice Choir and Côr Merched Edeirnion. Over all the concerts a total of £16,500 has been raised to date for MS Research, Cancer Research Wales and Parkinson’s Research. The choir has received a Bronze Award for fundraising from the MS Society.

---------------

Sefydlwyd y côr dan arweinyddiaeth Robin Williams yn 1973 i gystadlu yn Eisteddfod Powys y flwyddyn honno. Ers hynny mae’r côr wedi ennill nifer o wobrau eisteddfodol, ac yn 1978, Côr Meibion Bro Glyndŵr oedd y côr cyntaf o Gymru i gystadlu ym Mod yr Alban yn Oban.  Erbyn hyn mae’r aelodau wedi teithio’n eang ym Mhrydain ac Ewrop. Aeth y daith ddiweddaraf, ym mis Hydref 2006, â’r côr i `s-Hertogenbosch yn yr   

Iseldiroedd i gymryd rhan yn y gwasanaeth a gynhelir yn flynyddol i goffau rhyddhau’r ddinas ym mis Hydref 1944 gan filwyr Cymreig y 53rd Welsh Division. Yn ystod yr ymweliad â’r Iseldiroedd cafwyd cyfle hefyd i adnewyddu cysylltiad a wnaed flynyddoedd yn ôl â Chôr Meibion Maasbre.

Mae’r Côr wedi ymddangos nifer o weithiau ar y teledu, mewn cystadlaethau ac ar y rhaglen, Bargain Hunt gyda David Dickinson.

Yn dilyn ymddeoliad Robin Williams, daeth Ann Atkinson yn Gyfarwyddwr Cerdd. Derbyniodd y Côr wahoddiad i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Gŵyl Gorawl Cymru ar y teledu. Yn  1990  pan adawodd Ann y côr i astudio yn yr Academi Gerddorol Frenhinol yn Llundain, daeth Gwerfyl Williams, y cyfeilydd, yn Gyfarwyddwr Cerdd, ac yna Paul Johns yn 1994. Yn 1998 dychwelodd Ann at y côr, gyda Gwerfyl Williams yn ei chynorthwyo fel Cyfarwyddwr Cerdd pan fyddai Ann i ffwrdd yn dilyn ei gyrfa gerddorol broffesiynol. Alice Evans, pianydd medrus ac organydd eglwys, yw’r cyfeilydd ar hyn o bryd.

Mae’r côr yn gweithio’n galed o fewn y gymuned ar budd achosion da, rhai lleol a chenedlaethol. Dan arweinyddiaeth Ann mae’r côr wedi llwyfannu nifer o gyngherddau mawr elusennol bob dwy flynedd, mewn cydweithrediad ag unawdwyr proffesiynol a chorau lleol eraill, yn enwedig Côr Meibion Froncysyllte a Chôr Merched Edeirnion. Dros y blynyddoedd mae cyfanswm o £16,500 wedi’i godi er budd Ymchwil MS, Ymchwil Cancr Cymru a Chronfa Ymchwil Clefyd Parkinson. Derbyniodd y Côr Wobr Efydd y Gymdeithas MS fel cydnabyddiaeth.